Cynnigir sylwadau cyffredinol yma mewn ymateb i’r Bil
Drafft, a bydd yr ymateb i’r Cod Drafft i’w weld yn yr
adran nesaf. Bydd ymateb llawn yn cael eu gyflwyno yn unol
a’r amserlen Lywodraethol maes o law.
Rhan 2 – Termau allweddol Anghenion Dysgu
Ychwanegol
2 Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae’r diffiniad sydd yn cael ei gynnig yn y Bil yn
dehongli ADY yng nghyd-destun cyrhaeddiad disgwyliedig plentyn
erbyn eu bod yn cyrraedd oed ysgol yn unig. Mae hyn yn
ddiffiniad cul o ‘ddysgu’ sydd ddim yn cydnabod y
broses o sut mae babanod a phlant yn datblygu. Wrth lynu at
ddiffiniadau sydd yn ddibynnol ar gyd-destun addysg ffurfiol, mae
perygl i anghenion plant am symbyliad (stimulation) anogaeth a
rhyngweithio cymdeithasol (sydd yn gwbl hanfodol i ddatblygiad
ymenyddol plant bach) gael ei anwybyddu neu ei ddiystyru.
Wrth ystyried asesu anghenion ychwanegol addysgol plant bach o dan
dair oed dylai eu mynediad i brofiadau cynnar holl bwysig (fel
cymdeithasu a chwarae mewn lleoliad fel Cylch Ti a Fi neu Gylch
Meithrin) fod yn ystyriaeth.
Weithiau bydd anghenion llawer mwy sylfaenol am wasanaethau
arbenigol e.e.. ffysio- therapi, therapi iaith a llefaredd ac ati
angen dechrau ymhell cyn oedran ysgol, ond nid yw’r diffiniad
hwn yn mynd i arwain at wasanaeth i’r plentyn oni bai ei fod
yng nghyd-destun a fyddant yn gallu ‘dysgu’ yn yr ysgol
yn y dyfodol.
Byddai ehangu'r diffiniadau i fod yn gynhwysfawr tuag at
fabanod a phlant bach trwy ddefnyddio gwybodaeth am ddatblygiad
plant yn hytrach na ‘addysg’ plant yn gwella ansawdd y
Bil hwn.
4 Cod Anghenion Ychwanegol
Nid
yw’r personau a ganlyn o dan y ddeddf yn cynnwys y personau
o’r sector gwirfoddol fel partner posibl.
5 Y weithdrefn ar gyfer gwneud
cod
Nid
yw’r sector gwirfoddol wedi eu henwi fel personau a dylid
cael eu cynnwys mewn ymgynghoriad am y Cod.
9 Cynlluniau Datblygu Unigol: ysgolion a gynhelir
Nid
yw’r adran hon yn berthnasol i ddelio gyda chyfrifoldebau
lleoliadau nas cynhelir sydd yn darparu addysg feithrin (statudol)
3 oed gan nad ydynt wedi eu henwi ac nid oes ganddynt Gorff
Llywodraethol fel y cyfeirir ato mewn ysgolion a
gynhelir.
10 Cynlluniau Datblygu Unigol: Sefydliadau Addysg
bellach
Nid
yw’r adran hon yn berthnasol i ddelio gyda chyfrifoldebau
lleoliadau nas cynhelir sydd yn darparu addysg feithrin (Statudol)
3 oed gan nad ydynt wedi eu henwi ac nid oes ganddynt Gorff
Llywodraethol fel y cyfeirir ato mewn ysgolion a
gynhelir.
Nid
oes unrhyw gyfeiriad at leoliadau addysg nas cynhelir a ariennir,
a’u swyddogaethau nhw wrth ymwneud a phlant sydd ag
ADY. Mae hyn yn destun pryder. Mae arfer gref a chadarn
wedi eu sefydlu ers blynyddoedd o gydweithio rhwng y sector
gwirfoddol a’r Awdurdodau lleol. Ceir darpariaeth dysgu
ychwanegol mewn cylchoedd meithrin a meithrinfeydd trwy gynlluniau
cyfeirio. Mae perygl i hyn niweidio darpariaeth sydd eisoes
yn bodoli a thrin gwasanaethau sydd yn holl bwysig i blant
a’u teuluoedd fel rhywbeth gwbl ymylol i’r broses
statudol o gefnogi plant sydd a ADY.
11 Amgylchiadau pan nad yw’r dyletswyddau yn
adrannau 9 a 10 yn gymwys
Noder yn (2)nad oes rhaid darparu Cynllun Datblygu unigol os
yw person ifanc yn cydsynio a’r penderfyniad i wneud
hyn. Mae’r egwyddor hon yn gwbl groes i ysbryd
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant sydd yn mynegi yn
eglur iawn yn Erthygl 3
1.
Ym mhob gweithred sy'n ymwneud â phlant, p'un a ymgymerir gan
sefydliadau lles cymdeithasol cyhoeddus neu breifat,llysoedd barn,
awdurdodau gweinyddol neu gyrff deddfwriaethol, rhaid i les pennaf
y plentyn fod yn brif ystyriaeth.
Dylai fod prawf o les y plentyn yn ei gyfanrwydd yn hytrach
nag ymrwymiad i seilio penderfyniadau ar farn y person ifanc yn
unig.
12 Cynlluniau datblygu unigol: awdurdodau
lleol
Deallwn fod cyfrifoldeb ar awdurdod lleol i lunio cynllun
datblygu unigol i blant os ydynt yn cytuno bod ganddo/ganddi
ADY. Serch hynny mae’n annelwig sut mae’r
awdurdod yn mynd i ddod i wybod am blant ag ADY posibl yn y
blynyddoedd cynnar. Os oes rhai plant yn cyrraedd ysgol cyn
cael unrhyw ymyrraeth a chefnogaeth byddai cyfle gwych i
leihau anhenion dysgu ychwanegol y plentyn cyn iddo ef/hi gyrraedd
ysgol wedi ei golli.
13 Amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd yn adran 12 yn
gymwys.
Noder yn (3) nad oes rhaid darparu Cynllun Datblygu unigol os
yw person ifanc yn cydsynio a’r penderfyniad i wneud
hyn. mae’r egwyddor hyn yn gwbl groes i ysbryd y
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant sydd yn mynegi yn
eglur iawn yn Erthygl 3
1.
Ym mhob gweithred sy'n ymwneud â phlant, p'un a ymgymerir gan
sefydliadau lles cymdeithasol cyhoeddus neu breifat,llysoedd barn,
awdurdodau gweinyddol neu gyrff deddfwriaethol, rhaid i les pennaf
y plentyn fod yn brif ystyriaeth.
Dylai fod prawf o les y plentyn yn ei gyfanrwydd yn hytrach ag
ymrwymiad i seilio penderfyniadau ar farn y person ifanc yn
unig.
14 Cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd lleol ac
ymddiriedolaethau CIG
Croesawn yr ymrwymiad i sicrhau dyletswydd statudol ar
wasanaethau iechyd i ddarparu gwasanaethau yn unol a gopfynion
Cynllun Datblygu Unigol.
15 Adolygu cynlluniau datblygu unigol
Mae’r Bil yn datgan yn glir iawn fod y cyfrifoldeb o
gynnal y CDU yn perthyn i Gyrff llywodraethu ysgolion neu i’r
awdurdod lleol. Rhaid cael fframwaith amserol o safbwynt eu
hadolygu yn gyson er mwyn sicrhau fod y gwasanaethau a’r
gefnogaeth yn parhau i fod mor effeithlon ac y gall fod.
Serch hynny gan fod y ffenest i gefnogi yn gynnar fod yn fach yn y
blynyddoedd cynnar. Bydd rhai plant yn mynychu Cylch Meithrin
neu leoliadau cyffelyb am lai na blwyddyn, felly mae’n
hanfodol fod y system adolygu cefnogaeth yn cyd-fynd ag anghenion
datblygu'r plentyn yn hytrach nag yn dilyn amserlen wedi ei osod
gan ddeddf. O dan (4) mae’n hollbwysig fod y sector
gwirfoddol yn cael eu cynnwys yma gan y byddant yn debygol o fod yn
bartneriaid ac yn gyfrifol am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol i blant
bach.
Dywed adran (6) fod gan y rhieni neu’r plentyn yr hawl i
ofyn am adolygiad (sydd i’w groesawi) ond mae hyn yn cael ei
danseilio try ddweud trwy ganiatâi i awdurdod lleol beidio
ymateb os ydynt o’r farn nad oes angen gwneud
adolygiad. Dylai hyn ddim digwydd heb reswm teilwng a digonol
oherwydd mewn cyd-destun o doriadau a phwysau cynyddol ar
awdurdodau lleol mae perygl i hyn gael ei gamddefnyddio oherwydd
diffyg adnoddau.
30 Darpariaeth ddysgu ychwanegol ac eithrio mewn
ysgolion
Gan
na fu sôn am ddarpariaeth dysgu ychwanegol yn y sector
blynyddoedd cynnar nas cynhelir hyd yma, byddem yn disgwyl ei weld
o dan yr adran hon. Serch hynny mae (2) (rhoi darpariaeth
dysgu ychwanegol mewn man ac eithrio ysgol SIC) yn cael ei
danseilio i’r sector blynyddoedd cynnar trwy
ddatgan:
‘ Ond ni chaiff awdurdod lleol wneud hynny ond os
wedi ei fodloni y byddai’n amhriodol i’r ddarpariaeth
ddysgu ychwanegol gael ei wneud mewn ysgol.’
Dengys hyn fod y Bil yn anwybyddu anghenion plant o dan 3 oed
yn llwyr ac mae hyn yn destun pryder gan ei fod yn gyfnod mor
allweddol i ddatblygiad plant.
Ceir
adrannau penodol am ofynion cofrestri ar gyfer ysgolion annibynnol,
amodau sy’n gymwys i sicrhau DDY mewn ysgolion annibynnol,
rhestr o sefydliadau ôl 16 arbennig. Ac eto does yna
ddim crybwyll o wasanaethau i blant o dan 3 oed na chyfeiriad at
anghenion cofrestri lleoliadau gofal plant gydag Estyn a AGGCC, ble
caiff llawer o blant gydag ADY ddarpariaeth dysgu ychwanegol trwy
raglenni arbenigol Dechrau’n Deg, trwy wasanaethau
cymdeithasol a thrwy addysg 3 oed.
38 Gwasanaethau eirioli annibynol a 39 Cyfeillion
achos
Gyda
phlant o dan oed ysgol statudol mae’n her i roi gwasanaeth
eirioli neu gyfaill achos annibynnol sydd ddim ynghlwm ag anghenion
y rhieni hefyd. Mae’r berthynas rhwng plentyn a rhieni
/ gofalwyr mor gyd-ddibynnol yn y cyfnod hwn nad fydd trefniadau
eiriolaeth annibynnol yn effeithiol. Mewn gwirionedd ni all plant
bach gael mynediad at eu hawliau llawn heb gefnogaeth eu rhieni /
gofalwyr felly nid yw adrannau 1,2,3,4 a 5 yn ddigonol i sicrhau
hawl y plentyn i herio ac i dderbyn gwasanaethau. Rhaid cael
trefniadau yn eu lle i gefnogi rhieni i fod yn eiriolwyr effeithiol
ar eu rhan pan yn briodol neu ddarparu eiriolwyr teulu dros gyfnod
y blynyddoedd cynnar.
40 Apelau
Heb
gefnogaeth cynghori ac eirioli ar lefel teulu mae’n
annhebygol y bydd rhieni yn gallu defnyddio eu hawl i apelio a ran
plant yn y blynyddoedd cynnar.
46 Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol
Nid
yw’r adran hon yn berthnasol ar gyfer gwasanaethau’r
blynyddoedd cynnar. Dylid nodi yma pwy fydd yn cymryd y
cyfrifoldeb cyffelyb ar gyfer plant sydd ddim mewn ysgol am eu bod
yn rhy ifanc neu blant sydd yn derbyn eu haddysg feithrin gan yr
awdurdod lleol mewn lleoliad nas cynhelir ac ariennir.
50 Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd
ysgolion a sefydliadau eraill.
Nid
oes un o’r adrannau a,b,c,d,e,f yn berthnasol i Gylchoedd
Meithrin na meithrinfeydd dydd nac unrhyw leoliad arall nas
cynhelir ble mae plant ifanc ag ADY yn derbyn addysg a gofal.
Felly ni fydd hawl statudol gan yr awdurdod lleol o dan eiriad y
Bil hwn i gael mynediad iddynt. Rydym yn sicr nad dyma fwriad
yr adran hon gan fod gan gyrff rheoleiddio eraill hawl i gael
mynediad i’r mangreoedd hyn.
|